Ffeuen goffi

Ffa coffi wedi'u rhostio

Hedyn y planhigyn coffi yw ffeuen goffi a ffynhonnell ar gyfer coffi. Dyna'r garreg o fewn i'r ffrwyth coch neu borffor sy'n aml yn cael ei gyfeirio ato fel ceiriosen. Yn union fel ceirios cyffredin, mae'r ffrwyth coffi hefyd yn ffrwyth caregog. Er mai hadau yw ffa coffi, maen nhw'n cael eu cyfeirio atynt fel 'ffa' am eu bod yn edrych yn debyg i ffa go iawn. Mae'r ffrwythau – ceirios coffi neu fwyar coffi – fel arfer yn cynnwys dwy garreg gyda'u hymylon fflat yn erbyn ei gilydd. Mae canran fechan o geirios yn cynnwys un hedyn, yn hytrach na'r ddau arferol. Gelwir rhain yn "pysrawn". Ceir pysrawn mewn 10 i 15% o ffrwythau yn unig, ac mae yna gred gyffredin (heb ei phrofi'n wyddonol) bod mwy o flas arnynt nag sydd ar ffa coffi arferol.[1] Fel  cnau Brasil (hedyn) a reis gwyn, mae ffa coffi yn cynnwys endosberm yn bennaf.[2]

Y ddau fath pwysicaf o blanhigyn coffi o safbwynt economaidd yw'r Arabica a'r Robusta; mae tua ~60% o'r coffi sy'n cael ei gynhyrchu yn Arabica a ~40% yn Robusta.[3] Mae ffa Arabica yn cynnwys 0.8–1.4% o gaffein a ffa Robusta yn cynnwys 1.7–4% o gaffein.[4] Gan fod coffi yn un o'r diodydd sy'n cael ei yfed fwyaf o yn y byd, mae ffa coffi yn gnwd gwerthfawr ac yn gynnyrch allforio pwysig. Mae coffi yn dad a thros 50% o enillion trwy gyfnewid tramor i rai gwledydd sy'n datblygu.[5]

  1. "Peaberry Coffee Beans: Speciality Coffee Drinkers Guide". ilovebuttercoffee.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-12. Cyrchwyd 1 Dec 2016.
  2. "Arabica and Robusta Coffee Plant". Coffee Research Institute. Cyrchwyd 25 August 2011.
  3. "Coffee: World Markets and Trade" (PDF). United States Department of Agriculture - Foreign Agricultural Service. June 16, 2017. Cyrchwyd December 8, 2017.
  4. "Botanical Aspects". International Coffee Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 October 2011. Cyrchwyd 25 August 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "The Story of Coffee". International Coffee Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 October 2011. Cyrchwyd 25 August 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search